Jon Gries | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1957 Glendale |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, actor ffilm, llenor |
Tad | Tom Gries |
Gwefan | http://www.jongries.com |
Mae Jonathan Francis "Jon" Gries (ganed 17 Mehefin 1957) yn actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr Americanaidd. Fe'i adnabyddir hefyd fel Jon Francis a Jonathan Gries. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Uncle Rico yn Napoleon Dynamite, ac yn ddiweddaraf fel y cymeriad cylchol Roger Linus yn Lost. Fe'i adnabyddir hefyd am ei rolau yn Martin, The Pretender a Running Scared.
Ganwyd Gries yn Glendale, California, yn fab i Mary Eleanor Munday, actores, a Thomas Stephen "Tom" Gries, awdur, cynhyrchydd a chyfarwyddwr.[1][2] Cafodd ran yn un o ffilmiau Charles Heston, Will Penny, a sgwennwyd a chynhyrchwyd gan ei dad; chwaraeodd ran 'Boy Horace'.